Betsan Powys - Golygydd Radio Cymru
Mae BBC Cymru wedi ymateb i brif stori golwg360 heddiw am y troellwr disgiau, Andrew ‘Tommo’ Thomas – trwy ddweud na fyddan nhw’n gwneud unrhyw gyhoeddiad tan ddiwedd mis Tachwedd.
“Fel r’yn ni wedi dweud ar hyd yr amser, ein bwriad yw amlinellu ein cynlluniau ar gyfer BBC Radio Cymru, yn dilyn y‘Sgwrs’, yn ystod yr hydref,” meddai llefarydd wrth golwg360.
“Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn hwyrach yn y mis, a dyna pryd y byddwn ni’n cyhoeddi ein cynlluniau manwl am natur yr orsaf yn y dyfodol.”
Yn y cyfamser, mae nifer wedi bod yn trafod y posibilrwydd y gallai Andrew ‘Tommo’ Thomas, cyflwynydd rhaglen foreol Saesneg gyda gorsafoedd masnachol yn y de-orllewin, fod ar ei ffordd i donfeddi Radio Cymru.