Mae gwaith brys ar y gweill yn Sir Benfro i gael gwared ar 3,000 tunnell o laid mân, tywod a cherrig sy’n codi’r peryg o lifogydd i gartrefi a ffyrdd.

Mae Adnoddau Naturiol Cymru wedi anfon timau brys i draethau Amroth a Niwgwl yn Sir Benfro er mwyn cwblhau’r gwaith yn dilyn stormydd ffyrnig wnaeth daro gorllewin Cymru dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran Adnoddau Naturiol Cymru bod y ceuffosydd sy’n gadael i ddŵr lifo i’r traeth ar lanw isel gan leihau’r straen ar afonydd wedi eu blocio.

“Gan fod y ceuffosydd wedi eu blocio, bydd lefelau afonydd yn codi’n raddol all achosi llifogydd yn lleol,” meddai.

“Bydd y timau arbenigol ar y safle yn ystod y dyddiau nesaf i gael gwared ar dros 3,000 tunnell o wastraff o’r ddau safle ac yn caniatáu i lefelau’r afonydd i ddychwelyd i normal.”

Ychwanegodd bod gwaith o’r fath yn arbennig o bwysig gan fod y tywydd am fynd yn fwy ansefydlog dros y gaeaf.

Os oes unrhyw un yn gweld unrhyw rwystrau neu ddifrod y maent yn pryderu amdanynt, rydym yn eu hannog i alw’r llinell argyfwng ar 0800 80 70 60.