Keir Starmer - Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus (Chatham House CCA 2.0)
Fe ddylai fod yn drosedd i beidio â rhoi gwybod i’r awdurdodau am achosion o gam-drin plant, meddai’r cyn Gyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Keir Starmer.

Mae wedi galw am “gyfraith glir y mae pawb yn ei deall” ac wedi cael cefnogaeth gan fudiadau sy’n cefnogi dioddefwyr.

Maen nhw’n galw am ddeddf a fyddai’n gorfodi pobol mewn swyddi cyhoeddus a pherthnasol i roi gwybod am gam-drin, neu wynebu cael eu cosbi.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn dweud nad dyna’r ateb.

‘Methu â gwneud y peth iawn’

“R’yn ni’n awr yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno deddfwriaeth lle bydd pobol  mewn gweithgareddau sy’n cael eu rheoleiddio yn wynebu cael eu herlyn os oes ganddyn nhw wybodaeth uniongyrchol am gam-drin ond eu bod yn methu â gwneud y peth iawn,” meddai Liz Dux, cyfreithwraig sy’n cynrychioli 70 o’r rhai a gafodd eu cam-drin gan y cyflwynydd teledu, Jimmy Savile.

Ac yn ôl grŵp o fudiadau sy’n ymgyrchu dan yr enw Mandate Now, mae yna ormod o achosion ble mae prifathrawon  a swyddogion cyhoeddus wedi methu â rhoi gwybod am gam-drin.

Ymateb Llywodraeth Prydain

Mae’r galwadau’n cael eu gwneud ar raglen deledu’r BBC, Panorama, ond mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod yr awgrym – nid dyna’r ateb, meddai’r Adran Addysg.

“Mae’r cyfarwyddyd yn hollol glir y dylai swyddogion proffesiynol dynnu sylw gwasanaethau gofal cymdeithasol pan fyddan nhw’n pryderu am blentyn.

“Mae gwledydd eraill wedi rhoi cynnig ar adrodd gorfodol a does dim tystiolaeth fod honno’n system well i ddiogelu plant.”