Fe fydd ymladdwyr tân yng Nghymru a Lloegr ar streic eto yfory (dydd Llun) wrth i’r anghydfod rhyngddyn nhw a’r Llywodraeth ynghylch pensiynau barhau.

Fe fydd aelodau Undeb y Brigadau Tân yn cerdded allan am ddwyawr am 6 y bore – y trydydd tro iddyn nhw gymryd camau o’r fath dros yr wythnosau diwethaf.

Mae’r anghydfod yn ymwneud â chodi oedran ymddeol o 55 i 60, ac mae’r undeb yn ofni y bydd gweithwyr hŷn yn colli eu gwaith os byddan nhw’n methu profion ffitrwydd.

Dywed yr undeb fod y Llywodraeth wedi tynnu’n ôl gynnig a wnaeth ar bensiynau ac oedran ymddeol – a bod ei thelerau bellach yn salach i’r gweithwyr.

‘Rhwystr pellach’

Meddai ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Brigadau Tân, Matt Wrack:

“Mae’r Llywodraeth erbyn hyn wedi rhoi rhwystr pellach i drafodaethau, ond fe allwn ni ddal i ddatrys y llanast yma os yw’r Llywodraeth yn cydnabod ein pryderon ac yn ystyried y dystiolaeth yr ydym wedi’i chyflwyno iddyn nhw.”

Mae’r Llywodraeth yn honni bod eu cynnig yn un hael, ac y byddai ymladdwr tân ar £29,000 o gyflog a fyddai’n ymddeol yn 60 oed yn cael £19,000 o bensiwn a fyddai ar ben pensiwn y wladwriaeth pan fydden nhw’n gymwys amdano.

Mae’r undeb fodd bynnag yn gwrthod ffigurau’r Llywodraeth.