Mae’r gadwyn o siopau rhad, Poundland, yn gobeithio codi £800 miliwn wrth werthu cyfranddaliadau ar y gyfnewidfa stoc am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

Mae’r cwmni wedi penodi’r banc buddsoddi, Rothschild, i baratoi ar gyfer y gwerthiant.

Mae’r cwmni wedi tyfu’n aruthrol ers cychwyn fel un siop yn Burton-upon-Trent yn 1990. Mae bellach yn cyflogi 11,000 o weithwyr mewn 488 o siopau, a nod y cwmni yw dyblu nifer ei siopau i 1,000.

Er bod Poundland yn seilio’u hapêl ar werthu nwyddau’n rhad – gan gynnwys pob mathau o bethau am £1 – dywed y cwmni bod un o bob pump o’u cwsmeriaid yn dod o blith y garfan fwyaf cyfoethog o’r boblogaeth.

Perchnogion Poundland ar hyn o bryd yw Warburg Pincus, cwmni ecwiti preifat o’r Unol Daleithiau a brynodd y cwmni am £200 miliwn ym mis Mehefin 2010.

Barn arbenigwyr ariannol yw bod Poundland yn werth rhwng £700 miliwn ac £800 miliwn bellach.