Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am dystion ar ôl i ddyn gael ei daro i lawr gan gar yn Wrecsam neithiwr.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ychydig wedi 11.30 ar groesffordd rhwng St Giles Way a Ffordd Salop yn y dref.

Mae’r dyn mewn cyflwr difrifol ac mae’r heddlu’n gofyn am i unrhyw un sydd â gwybodaeth eu ffonio nhw ar 101 gan ddatgan cyfeirnod P181326.