Mae streic gan weithwyr prif swyddfeydd post gwledydd Prydain wedi ei chanslo, wedi i drafodaethau ynglyn a chyflogau ac amodau gwaith, ynghyd a faint o ganghennau fyddai’n cael eu cau, ddod o hyd i dir canol.

Roedd aelodau undeb y gweithwyr cyfathrebu, y CWU, wedi cyhoeddi y  bydden nhw’n cerdded allan ddydd Llun am y 13eg gwaith ers y Pasg.

Yn ol yr undeb, maen nhw bellach wedi penderfynu peidio gweithredu’n ddiwydiannol, wedi i Brif Weithredwr Swyddfa’r Post addo i gynnal cyfres o drafodaethau dwys yr wythnos nesa’ er mwyn dod i ddealltwriaeth.

“Yn ei llythyr, mae Paula Vennells yn ymrwymo i wneud beth bynnag y medr hi er mwyn dod i gytundeb,” meddai’r undeb.

“Wedi saith mis o drafod, ac wedi deuddeg rownd o weithredu’n ddiwydiannol, rydyn ni’n falch bod Swyddfa’r Post, o’r diwedd, yn derbyn cyfrifoldeb am yr anghydfod hwn.