Mae cyfrif e-bost y newyddiadurwr a’r awdur, Hefin Wyn, wedi cael ei hacio a’i ddefnyddio i anfon negeseuon spam Cymraeg at ei gysylltiadau yn gofyn am arian.
Mae’r sawl sydd wrthi wedi anfon e-bost yn enw Hefin Wyn – cyn-newyddiaduwr y BBC ac awdur cyfrolau ar hanes y sin roc Gymraeg fel Be Bop a Lula’r Delyn Aur a Ble Wyt Ti Rhwng – yn dweud ei fod o wedi mynd i drybini yn ninas Manila ac angen £2,400.
Fis diwetha’, roedd golwg360 yn adrodd am drafferthion e-bost golygydd Y Goleuad, Y Parchedig Pryderi Llwyd Jones, ac fel yr oedd hwnnw wedi ei hacio a negeseuon tebyg wedi eu hanfon at bobol yn ei restr cyfeiriadau yn gofyn am fenthyg pres.
Roedd yntau, yn ol yr hacwyr, angen arian er mwyn hedfan gartre’ o’r un ddinas a Hefin Wyn – Manila.
Ond mae trydydd newyddiadurwr wedi cael ei daro, wedi i gyfri’ e-bost Glyn Tomos, cyn-olygydd y cylchgrawn pop Sgrech a Chadeirydd presennol Papur Dre yng Nghaernarfon, gael ei hacio.
Haciwr o Nigeria, meddai Hefin Wyn
Mae Hefin Wyn wedi treulio amser ar y ffon heddiw yn ceisio datrys y mater gyda BT, y cwmni sy’n darparu ei gysylltiad gyda’r we. Yn ol y wybodaeth y mae Hefin Wyn wedi ei derbyn gan y cwmni, mae’r haciwr yn dod o Affrica.
“Yn ôl BT mae’r haciwr yn dod o Nigeria,” meddai Hefin Wyn wrth golwg360. “Mae’n debyg ei fod yn defnyddio offer cyfieithu ar y we er mwyn cyfieithu’r neges i’r Gymraeg.
“Rwy wedi newid fy nghyfrinair ddwywaith ac wedi colli fy nghysylltiadau i gyd, yn ogystal â’r holl negeseuon rwy’ i wedi’u derbyn – a does dim sicrwydd y caf i rheini nôl.”
Ychwanegodd bod BT wedi dweud wrtho mai cwmni Yahoo sy’n gweinyddu eu system ebost ac y byddan nhw’n newid hynny ymhen blwyddyn oherwydd problemau parhaus gyda hacwyr.
Ymateb BT