Bydd llyfr newydd ar gyfer connoiseurs bwyd a gwin yn cael ei gyflwyno i’r byd yn nhre’ Dolgellau heno.

Mae’r gyfrol o ryseitiau wedi’i rhoi at ei gilydd gan Dafydd a Llinos Rowlands, perchnogion bwyty Dylanwad Da yn y dre’ ers 25 mlynedd.

Mae Dylanwad Da yn un o fwytai amlycaf yr ardal ac yn cynnwys siop fechan sy’n gwerthu gwin, ac mae wedi bod yn y ‘Good Food Guide’ am flynyddoedd bellach.

Er mwyn dathlu’r pen-blwydd arbennig y bwyty, maen nhw wedi penderfynu cyhoeddi’r llyfr Bwyd a Gwin, sydd yn llawn rystiau poblogaidd o’u bwydlen hwy, a sylwadau a chyflwyniadau i’r prydau.

Gwin unigryw

Ond beth sydd yn unigryw am y gyfrol hefyd yw’r gwinoedd. Mae Dylan Rowlands wedi teithio’n helaeth i flasu gwinoedd ar draws y byd, ac yn mewnforio gwinoedd dethol o lefydd y mae wedi ymweld a nhw.

Mae’r gyfrol yn cynnwys canllawiau ac argymhellion ar gyfer sut mae blasu a gwerthfawrogi gwin, ynghyd ag awgrymiadau ar ba winoedd sy’n gweddu i wahanol brydau a ryseitiau.

Pwysigrwydd gwrando ar bobol

Yn ol Llinos Rowlands, mae llawer o waith meddwl wedi mynd i’r gwaith o baratoi’r gyfrol, ond mai’r peth pwysica’ bob amser yw gwrando ar yr hyn oedd eu cwsmeriaid nhw am ei weld.

“Fe wnaethon ni ofyn ar Facebook i weld pa rysetiau fyddai pobol yn hoffi weld, ac mi gawson ni ymateb da,” meddai Llinos. “Mae’n bwysig gwrando ar bobol efo pethau fel hyn.

“Roedd penderfynu ar ba rysetiau i roi mewn yn dipyn o broses, ac roedd yn rhaid i ni hefyd feddwl am sut i slotio’r gwahanol wledydd a theithiau i mewn i’r llyfr.

“Ond roedd hi’n syniad gwych gan Meinir o’r Lolfa i roi’r gwinoedd i mewn hefyd. Da ni wedi trio ffeindio gwin gwahanol i fynd efo bob pryd.

“Mae’n bwysig esbonio pam fod y gwin yn mynd efo pryd penodol, ac yn y bon gadael i bobol ddechrau gwneud eu penderfyniadau eu hunain – awgrymu ydan ni.”

Ac mae Dylan Rowlands yn pwysleisio mai bwyd cartre’, weddol syml, sydd yn y llyfr, a bod hynny’n golygu y gallai pobol roi tro ar goginio’r prydau eu hunain.