Mae ffracio wedi bod yn destun protestio yn ne Cymru
Mae cyngor lleol yn Llundain yn honni mai nhw yw’r awdurdod lleol cynta’ yng ngwledydd Prydain sy’n bwriadu gwahardd y broses o ffracio.
Dywed Cyngor Brent, sy’n cael ei reoli gan y Blaid Lafur, eu bod am ddefnyddio “unrhyw fodd gyfreithiol” er mwyn atal cwmnïau ynni rhag tyllu oddi mewn i ffiniau’r awdurdod.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gefnogol i’r syniad o dyllu am nwy siâl, gan honni y gall y broses ostwng biliau ynni a chreu miloedd o swyddi.
Ond mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn gwrthwynebu ffracio’n chwyrn gan honni fod y dechneg yn cynyddu newid hinsawdd, achosi daeargrynfeydd a llygru cyflenwadau dŵr.