“Mae Plaid Cymru yn fras yn croesawu’r cyhoeddiadau a wnaed y bore hwn ar bwerau ariannol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, er y buasai’n well gennym ni iddynt fynd ymhellach,” meddai Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae Plaid Cymru wedi pwyso am weithredu argymhellion Silk o’r cychwyn cyntaf, ac y mae’n dda gweld fod llywodraeth y DG o’r diwedd wedi symud ymlaen, er iddynt wneud llai na gweithredu llawn.
“Mae posibiliadau mawr gan bwerau benthyca i adfywio’r economi ledled Cymru, a gallant adael i ni chwyldroi ein seilwaith trafnidiaeth a chyfathrebu ym mhob cwr o’r wlad.
“Mae Plaid Cymru yn wastad wedi dweud fod argymhellion Comisiwn Silk yn eu hadroddiad cyntaf yn hybu atebolrwydd a chyfrifoldeb i Genedlaethol Cymru, a chryfhau ein democratiaeth yng Nghymru.
“Nawr mae angen i ni fwrw ymlaen, yn ddi-oed.
“Mae arnom angen pwerau dros dreth incwm i roi cymhellion i Lywodraeth Cymru i greu swyddi o safon gyda chyflogau da, fydd yn newid y tirwedd yn radical. Mae angen i’r broses hon gychwyn cyn gynted ag y bo modd.”
Siomedig
“Rwy’n siomedig fod llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi penderfynu peidio â gweithredu argymhellion Comisiwn Silk yn llawn, ac yr ydym yn edrych ymlaen at eu hymateb manwl a gyhoeddir yn nes ymlaen eleni,” meddai Leanne Wood wedyn.
“Mae llawer o gwestiynau heb eu hateb, a bydd angen i lywodraeth y DG ymdrin â’r rhain yn eu hymateb llawnach.
“Mae  Plaid Cymru wedi dweud o’r dechrau fod ar Gymru angen pwerau i greu swyddi os ydym am drawsnewid ein ffawd economaidd a chreu swyddi newydd. Rhaid i ni yn awr fwrw ymlaen i ddatganoli’r pwerau hyn cyn gynted ag sydd modd ac yr wyf yn edrych ymlaen at weithio eto gyda’r pedair plaid yn y Cynulliad i wneud hynny.”