Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i dân mewn fflat ym Mhensarn ger Abergele yn ystod oriau mân fore Gwener (Tachwedd 1).
Fe ddaeth yr alwad 999 am 2.50yb, ac roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yno o fewn munudau. Fe lwyddwyd i ddiffodd y fflamau cyn bod y tân yn ymledu ac yn gwneud difrod i fflatiau cyfagos.
Fe gafodd 11 o drigolion, yn cynnwys tri o blant, eu symud o’r fflatiau cyfagos tra’r oedd y frigad dân yn gwneud ei gwaith. Fe gawson nhw loches mewn canolfan gymunedol gerllaw, nes ei bod yn ddiogel iddyn nhw ddychwelyd adre’.
Ond fe gafodd dyn lleol 51 oed anafiadau difrifol wedi iddo ddisgyn o ffenestr. Y gred ydi mai fo sy’n byw yn y fflat oedd ar dân.