Traffordd yr M4
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i ddamwain ddigwyddodd ar ffordd ymadael yr M4 yn Sarn nos Iau, Hydref 31.

Dim ond un cerbyd Mitsubishi Lancer coch oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad, wrth iddo adael y draffordd ar ei ben.

Fe gafodd gyrrwr 29 mlwydd oed y car ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, lle mae’n dal i dderbyn triniaeth i anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un a welodd y cerbyd yn gadael y ffordd, neu a welodd y cerbyd cyn neu wedi’r ddamwain, gysylltu gyda’r Heddlu ar y rhify 101.