Mae Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i fynd i’r afael â thrais domestig.
Mae’r ymgyrch yn cyd-fynd â chyfnod pryd y bydd nifer o gemau pêl-droed, rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair pwysig yn cael eu cynnal yng Nghymru. Mae lefelau uwch o gam-drin domestig yn digwydd adeg digwyddiadau o’r fath.
Bydd yr ymgyrch yn cynnwys hysbysebion ar orsafoedd radio lleol a fydd yn hybu neges atal trais ac yn tynnu sylw at Linell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan.
Roedd ymgyrch debyg a gynhaliwyd yn ystod pencampwriaeth rygbi’r Chwe Gwlad y llynedd wedi arwain at gynnydd o bron 10% yn nifer y galwadau o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Dim lle i drais yn y gymdeithas fodern
Dywedodd y Gweinidog: “Nid oes lle i drais yn erbyn menywod a thrais domestig yn y gymdeithas fodern, ac ni ellir byth cyfiawnhau trais o’r fath.
Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a cham-drin domestig ac mae’r ymgyrch hon yn rhan o’r gwaith parhaus rydyn ni’n ei wneud i daclo’r problemau hyn.
“Yn ôl tystiolaeth, mae nifer y digwyddiadau y rhoddir gwybod amdanyn nhw i’r heddlu yn cynyddu’n ddramatig adeg cynnal digwyddiadau chwaraeon pwysig.
“Dyma’r adeg felly i atgoffa pobl o’r ymgyrch a chyfleu’r neges yn glir: Does dim gwahaniaeth beth yw’r canlyniad a dim gwahaniaeth faint o alcohol sydd wedi’i yfed, mae trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn drosedd na fyddwn yn ei goddef.”
Mae help ar gael
Gall unrhyw un sy’n dioddef o drais domestig yng Nghymru ffonio Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan ar 0808 80 10 800 neu ymweld â www.livefearfree.org.uk i gael gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, dwyieithog 24 awr y dydd.