Fe fydd diffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr yn cynnal streic yn ddiweddarach heddiw mewn gwrthwynebiad i gynlluniau’r Llywodraeth i newid y trefniadau pensiwn cyfredol.
Maen nhw’n dweud eu bod yn fwriadol wedi osgoi noson Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt.
Ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am gynnal y streic yn nghanol y tymor partïon coelcerth.
Yn ôl eu llefarydd yng Nghymru, mae gan y gwasanaethau brys drefniadau i ddelio gydag argyfyngau.
Y manylion
Mae Undeb y Brigadau Tân yn bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol o 6.30yh tan 11.00 yh heno ac am ddwy awr ddydd Llun.
Mae’r frigâd dân wedi annog pobl i ohirio cynnal digwyddiadau tân gwyllt yn eu cartrefi dros y penwythnos.
Mae’r streic ddiweddaraf yn dilyn un gafodd ei gynnal yn gynharach ym mis Hydref.
Mae’r anghydfod yn ymwneud â thelerau gweithio wedi i Lywodraeth y DU gyhoeddi eu bod am godi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60.