Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wedi croesawu’r newyddion y bydd arweinwyr gwledydd NATO yn cyfarfod yng Nghymru.

Fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai Llywodraeth Cymru’n cynnal derbyniad i groesawu’r arweinwyr – “ar ran pobol Cymru” – adeg y gynhadledd ymhen blwyddyn.

Ac mae’r Ceidwadwr, Andrew R.T. Davies yn hawlio bod penderfyniad NATO yn arwydd o bwysigrwydd rhyngwladol canolfan y Celtic Manor ger Casnewydd – yno y bydd y cyfarfod.

Dyw mudiadau heddwch ddim wedi ymateb i’r newydd hyd yn hyn.

Y dyfyniadau

“Rwy’n croesawu’r newyddion y bydd Uwchgynhadledd NATO yn cael ei chynnal yma ‘r cyfle y mae hynny yn ei roi i ddangos beth sydd gan Gymru i’w gynnig. Rydym yn edrych ymlaen at allu cynnal derbyniad ar ran pobol Cymru i groesawu arweinwyr byd i’n gwlad.” – Carwyn Jones.

“Mae’r ffaith y bydd y Prif Weinidog (Prydain) yn cynnal trafodaethau diplomataidd byd-eang yn ne Cymru gyda’r arweinwyr mwya’ grymus yn y byd yn dangos fod gan Gymru leoliadau o safon byd.” – Andrew R.T. Davies.

Y stori wreiddiol fan hyn.