Fe fydd refferendwm yn cael ei gynnal i benderfynu a yw Llywodraeth Cymru’n cael yr hawl i amrywio rhywfaint ar dreth incwm.

Beth bynnag sy’n digwydd yn y bleidlais, fe fydd Cymru’n cael yr hawl i fenthyg arian ar gyfer cynlluniau cyfalaf mawr a hawl i reoli treth stamp.

Fe fydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog a’i Ddirprwy, David Cameron a Nick Clegg, wrth iddyn nhw ymweld â Chymru.

Y bleidlais

Fe fydd y refferendwm ar gynllun tebyg i’r hyn sydd ar fin dod i rym yn yr Alban – gyda thoriad gwerth 10c o dreth incwm yn yr arian sy’n dod i o San Steffan i Gymru a’r Llywodraeth yng Nghaerdydd yn cael penderfynu beth i’w wneud o ran y gwahaniaeth.

Fe allen nhw wedyn gadw’r dreth incwm yn is yng Nghymru, codi’r 10c beth bynnag, neu godi’r dreth o fwy na hynny er mwyn cael cyllid.

Fe fydd y ddau’n cyfarfod gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn ddiweddarach heddiw.

Yn y gorffennol, mae’r Llywodraeth Lafur wedi dweud nad ydyn nhw eisiau newidiadau treth, nes y bydd Cymru’n cael chwarae teg o dan drefn gyllido Fformiwla Barnett.

Cymru ‘wedi dioddef’

Mewn erthygl bapur newydd, fe ddywedodd Cameron a Clegg ei bod yn bryd newid pethau.

“Am rhy hir, mae penderfyniadau am ddyfodol Cymru wedi eu gwneud gan fiwrocratiaid gannoedd o filltiroedd i ffwrdd yn San Steffan ac mae wedi dioddef o ganlyniad,” medden nhw.

Ac roedd yna gic i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, gyda’r awgrym fod Cymru’n dal i ddioddef tra oedd economi gweddill gwledydd Prydain yn dechrau gwella.

Roedd y Llywodraeth Glymblaid eisiau bod yn gyfrifol am roi diwedd ar dlodi cymharol Cymru.