Mae dyn 60 oed o Groesoswallt yn Sir Amwythig wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi creulondeb i blant.

Cafodd ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial sy’n ymchwilio i honiadau o gam-drin rhywiol hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Mae’r dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o nifer o droseddau o greulondeb i blentyn. Honnir bod y troseddau yn erbyn tri bachgen rhwng 1978 a 1984 pan oedden nhw rhwng 15 a 16 oed.

Fe fydd y  dyn yn cael ei holi gan swyddogion yr Asiantaeth Trosedd Genedlaethol (NCA) sy’n arwain yr ymchwiliad, a swyddogion o Ymchwiliad Pallial.

Y dyn yw’r 14eg person i gael ei arestio fel rhan o Ymchwiliad Pallial.