Mae David Cameron wedi cyhoeddi y bydd uwchgynhadledd nesaf Nato yn cael ei chynnal yng ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd yn yr hydref y flwyddyn nesaf.
Fe fydd lleoliadau eraill yng Nghaerdydd hefyd yn cael eu defnyddio, yn ol David Cameron wrth gael ei holi ar BBC Wales Today heno.
Fe fydd hefyd yn rhoi ymateb Llywodraeth Prydain i adroddiad Comisiwn Silk ar ddatganoli, a’r disgwyl yw y byddan nhw’n derbyn llawer o’r argymhellion ar ddatganoli rhywfaint o drethi.
Mae’r Ceidwadwyr a’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, wedi awgrymu cyn hyn y byddan nhw’n barod i ddatganoli rhai elfennau o dreth i Gymru, er mwyn gwneud Llywodraeth Cymru’n fwy atebol.
Fe allai hynny gynnwys elfen o dreth incwm, cyfrifoldeb llawn am dreth fusnes a rhai trethi llai, fel y doll ar gloddio, y dreth tirlenwi a’r dreth meysydd awyr.
‘Rhoi Cymru ar y map’
Wrth ymateb i’r newyddion am uwchgynhadledd Nato, dywedodd yr AS Ceidwadol Glyn Davies mai “dyma’r newyddion gorau i dwristiaeth yng Nghymru ers Cwpan Ryder. Bydd yn rhoi Cymru ar y map wrth i Obama ymweld â’r Celtic Manor.”