Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i ddynes 82 mlwydd oed drosglwyddo miloedd o bunnoedd o’i chyfrif banc ar ôl iddi gael ei thwyllo.
Cafodd y ddynes alwadau ffôn oedd yn gofyn iddi dalu arian i mewn i gyfrif banc gwahanol wedi iddi siarad â dyn a menyw ag acenion Albanaidd cryf.
Gan ei bod hi’n credu bod y galwadau yn ddilys, talodd y ddynes filoedd o bunnoedd mewn i gyfrif sydd bellach wedi ei wagio.
Ddydd Mercher, aeth dyn i gyfeiriad y ddynes yn Abertawe i gasglu rhagor o arian ond credir ei fod wedi ffoi’r ardal ar ôl cael ei herio gan fab y wraig.
Mae’r dyn yn cael ei ddisgrifio fel gŵr Asiaidd/Arabaidd tua 23/24 mlwydd oed gyda gwallt du tonnog. Mae ganddo iPhone lliw aur ac acen leol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Anthony Evans o Heddlu De Cymru: “Rydym yn cynnal ymholiadau mewn perthynas â’r mater hwn gydag uned twyll y banc er mwyn adnabod y rhai sy’n gyfrifol.
“Rydym yn cymryd y cyfle hwn i atgoffa trigolion i beidio gwneud busnes ariannol â phobl sy’n galw’n ddiwahoddiad ac i gysylltu â’ch banc os oes gennych unrhyw bryderon.”
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y dyn yn ardal Stryd Catherine, Abertawe oddeutu 9:00 bore Mercher, 30 Hydref i ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.