Mae dyn wnaeth bostio fideos o’i hun ar lein wedi’i wisgo fel aelod o’r  Ku Klux Klan wedi pledio’n euog i ysgogi casineb hiliol.

Roedd Christopher Philips, 23, wedi rhoi tri fideo o’i hun ar elin yn cymryd arno ei fod yn crogi dol ddu mewn digwyddiad a gafodd ei drefnu gan grŵp asgell dde eithafol yng ngorllewin Cymru.

Dywedodd yr heddlu y bydd yn debygol o gael ei garcharu pan fydd yn cael ei ddedfrydu ym mis Rhagfyr.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Darren Powney: “Rydym yn deall pa mor sarhaus a gofidus gall y math hwn o ddeunydd fod ac rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â phryderon ynglŷn ag ymddygiad eithafol o unrhyw fath i gysylltu â’r heddlu ar 101.”