Michael Souter
Mae cyn gyflwynydd gyda’r BBC wedi cael ei garcharu am 22 mlynedd ar ôl ei gael yn euog o droseddau rhyw yn erbyn plant dros gyfnod o 20 mlynedd.

Roedd Michael Souter, cyn gyflwynydd BBC Norfolk a Radio Clyde, wedi ei ddyfarnu’r euog o gyfres droseddau rhyw yn erbyn saith o fechgyn rhwng 11 a 16 oed rhwng 1979 a 1999.

Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Norwich heddiw.

Dywedodd Heddlu Norfolk bod Souter, 60 oed, o Loddon, Norfolk, yn gyfrifol am “un o’r achosion gwaethaf o gam-drin plant dros gyfnod estynedig o amser.”