Y Stormont
Mae swyddfeydd Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon wedi cael eu gwagio yn dilyn rhybudd diogelwch.

Cafodd gwrthrych amheus ei ganfod ym mhencadlys Peter Robinson a Martin McGuiness yng Nghastell Stormont ger Belffast.

Yn ddiweddar cafodd bom mewn llythyr ei anfon at Brif Gwnstabl Gogledd Iwerddon ac un arall at y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yn Derry.