Mae’r gwasanaethau brys wrthi’n ceisio achub tri o bobol sy’n sownd ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gar ym Mhowys.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ei alw tua 9.30yb ddydd Mawrth, i ddamwain ar ffordd yr A470 yn Llandefalle.

Fe ddaeth dwy frigâd dân – y naill o Dalgarth a’r llall o Aberhonddu – ac maen nhw wrthi’n defnyddio offer hydrolig er mwyn rhyddhau’r bobol o’u ceir.