Mae asiantaeth iechyd y Cenhedloedd Unedig wedi cadarnhau bod 10 achos o’r afiechyd Polio wedi ei gadarnhau yn Syria.
Dywedodd llefarydd ar ran Sefydliad Iechyd y Byd eu bod yn ymchwilio i 12 achos posib arall yng ngogledd ddwyrain y wlad sydd wedi dioddef rhyfel cartref ers dwy flynedd.
Ychwanegodd y llefarydd fod yna “beryg uchel y byddai’r clefyd yn lledu ar draws y parth”.
Dechreuodd rhyfel cartref Syria fel gwrthdystiad heddychlon yn erbyn yr Arlywydd Assad ym Mawrth 2011.
Ers hynny mae mwy na 100,000 o bobol wedi marw ac mae bron i saith miliwn o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi wrth i drefi a dinasoedd gael eu difrodi.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi rhybuddio fod clefydau yn ymledu oherwydd nad oes digon o frechiadau ar gael ac oherwydd diffyg hylendid.