Mae cyn-bennaeth adran amddiffyn plant Cyngor Haringey wedi cytuno derbyn setliad am gael ei diswyddo’n annheg yn dilyn achos Babi P.

Yn ôl rhaglen newyddion BBC2, Newsnight, gallai Sharon Shoesmith dderbyn “hyd at £600,000”.

Bydd yn rhaid i Gyngor Haringey dalu’r rhan fwyaf o’r setliad, yn ôl adroddiadau.

Roedd Sharon Shoesmith yn ennill £133,000 y flwyddyn fel cyfarwyddwr gwasanaethau plant y cyngor pan benderfynodd yr Ysgrifennydd Addysg ar y pryd, Ed Balls, ei symud o’r swydd yn dilyn adroddiad damniol ynghylch marwolaeth Peter Connolly.

Cafodd ei diswyddo heb iawndal gan y cyngor yn Rhagfyr 2008 yn dilyn adroddiad gan Ofsted wnaeth ganfod fod ei hadran wedi methu ag amddiffyn Peter Connolly.

Bu farw Peter Connolly – gafodd ei adnabod fel Babi P ar y pryd – yn 17 mis oed yn Awst 2007 wedi iddo ddioddef mwy na 50 o anafiadau er ei fod ar gofrestr beryg y cyngor a bod gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu, a gweithwyr iechyd wedi ymweld ag ef 60 o weithiau.

Cafodd ei fam, Tracey Connelly, ei chariad, Steven Barker, a’u lletywr Jason Owen eu cael yn euog o achosi marwolaeth plentyn.

Ym Mai 2011 penderfynodd Y Llys Apêl fod Sharon Shoesmith wedi cael ei diswyddo’n annheg am nad oedd Ed Balls na’r cyngor wedi rhoi cyfle digonol iddi amddiffyn ei hun.