Mae Gwasaneth Tân ac Achub Gorllewin Cymru yn ymateb i dân mewn sgubor yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r tân ym mhentre’ Pencader wedi bod yn llosgi yn y sgubor anifeiliad ers dros 12 awr gan ymledu i bentwr o wair y tu allan i’r adeilad.
Yn ôl llefarydd o’r gwasaneth achub, mae dau lo wedi marw ond cafodd gweddill yr anifeiliad eu cludo i leoliad cyfagos yn saff.
Cafodd dair injan dân eu glaw i’r safle ac mae’r ffarmwr hefyd wedi bod yn rhoi cymorth i’r diffoddwyr tân symud y gwair sydd heb ei effeitho gan y tân.
Mae’r tân bellach o dan reolaeth.