Fe fydd ysgol gynradd ym Mhenarth yn ail-agor yr wythnos nesa’, wedi iddi gael ei chyhoeddi’n beryg yr wythnos ddiwetha’.
Roedd staff yn Ysgol Gynradd Albert wedi sylwi ar graciau yn nenfydau’r ystafelloedd dosbarth, ac fe gafodd yr ysgol ei chau tra’r oedd archwiliad llawn yn cael ei wneud o’r adeiladau.
Mae tair neuadd, y ffreutur, coridor a dwy ystafell ddosbarth wedi cael eu trwsio, ar gost o £135,000.