Laurent Gbagbo
Mae’n rhaid i gyn-arlywydd y Traeth Ifori aros yn y ddalfa cyn y bydd yn sefyll ei brawf ar gyhuddiad o dwyllo yn etholiad 2010.

Dyna ddyfarniad y barnwyr yn y Llys Troseddau Rhyngwladol.

Mae Laurent Gbagbo wedi bod dan glo yn yr Hâg yn yr Iseldiroedd am bron i ddwy flynedd, a dyw hi ddim yn glir pryd yn union y bydd yn mynd ar brawf. Dyw hi ddim yn hollol glir eto chwaith pa gyhuddiadau y bydd yn gorfod eu hateb.

Heddiw, mae barnwyr wedi gwrthod ei apêl yn erbyn cael ei gadw dan glo cyn yr achos.

Mae erlynwyr yn honni i tua 3,000 o bobol gael eu lladd yn ystod y brwydro rhwng cefnogwyr Gbagbo a’r Arlywydd Alassane Ouattara yn ystod y pum mis o drais yn dilyn etholiad 2010. Roedd Laurent Gbagbo yn gwrthod derbyn ei fod wedi colli’r ras.