Fe fydd modd i fathemategwyr y dyfodol ddefnyddio adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.

Mae cyfieithiadau Dr Tudur Davies o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg newydd gael eu cyhoeddi ar wefan y MathCentre.

Prosiect aml-ddisgyblaethol yw’r MathCentre sy’n cynnig adnoddau rhad ac am ddim i fyfyrwyr er mwyn hwyluso dysgu Mathemateg mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.

Roedd Tudur Davies o’r farn bod prinder adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg yn bodoli yn y maes felly roedd yn falch o dderbyn cefnogaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r MathCentre i gyflawni’r gwaith.

Mae wedi paratoi’r tair taflen gyntaf ar gyfer y prosiect taflenni ffeithiau a fformiwlâu a bydd yn parhau â’r gwaith o gyfieithu gweddill y gyfres fydd yn canolbwyntio ar Fathemateg ar gyfer Cemeg, Cyfrifiadureg ac Economeg yn y flwyddyn newydd.

Bod o ddefnydd

Yn ôl Dr Tudur Davies: ‘‘Rwy’n gobeithio y byddant yn cael eu defnyddio gan fyfyrwyr sy’n astudio pynciau gradd sydd ag elfen fathemategol iddyn nhw, boed hynny’n Fathemateg, Ffiseg, Peirianneg, Economeg neu Gemeg.

“Rwy’ i hefyd yn credu y byddan nhw o ddefnydd i ddisgyblion chweched dosbarth sy’n astudio’r pynciau uchod er mwyn hwyluso’r naid rhwng addysg ysgol a phrifysgol.’’