Bydd aelodau undebau Unsain Cymru, UCU ac Unite yn cynnal streic ddydd Iau mewn ymateb i godiad cyflog terfynol o 1% i weithwyr addysg uwch.

Dywedodd Simon Dunn, llefarydd dros addysg uwch Unsain, mai dyma’r dewis olaf i’r aelodau:

“Nid yw rhai o’n haelodau sydd mewn addysg uwch hyd yn oed yn derbyn cyflog sy’n ddigon i fyw arno ac mae’r mwyafrif wedi gweld lleihad o tua 15% yn eu cyflogau.

“Maen nhw’n brwydro i gael deupen llinyn ynghyd oherwydd hyn.

“Maen nhw’n gorfod dewis rhwng bwydo eu teuluoedd neu gynhesu’r tŷ. Mae hi mor ddrwg â hynny.”

Diangen

Ond, yn ôl Simon Dunn, mae’r sefyllfa yn ddiangen:

“Mae’r arian i dalu cyflogau teg i’r gweithwyr ar gael gan fod mwy yn cael ei dalu tuag at addysg uwch y dyddia

“Ond i wneud pethau’n waeth mae cyflogau prif swyddi yng Nghymru yn hael iawn. Roedd un is-ganghellor yng Nghymru yn derbyn £264,000 y flwyddyn.”

“Wrth gymryd hyn i gyd i ystyriaeth, mae’r rhesymau dros y streic yn amlwg.

Mae ein haelodau yn teimlo fel eu bod yn cael eu twyllo ac wedi cael digon.”