Y Frenhines
Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio wrth iddo geisio torri i mewn i Balas Buckingham.

Roedd gan y dyn gyllell yn ei feddiant, yn ol Scotland Yard.

Cafodd y dyn ei arestio am 11.30yb wrth iddo geisio mynd drwy gatiau’r Palas.

Ar ôl i’r heddlu ei chwilio, cafodd cyllell ei ddarganfod.

Cafodd ei arestio ar amheuaeth o dresmasu ar safle sy’n cael ei ddiogelu ac o fod ag arf yn ei feddiant. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.