Mae rheolwyr glofa Unity yng Nglyn Nedd yn cwrdd â’r gweithwyr heddiw i drafod cau’r safle.

Wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd perchnogion glofa fwyaf Cymru fod y safle wedi ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae hyn yn rhoi dyfodol swyddi’r 220 o weithwyr yn y fantol, er iddyn nhw rannu shifftiau a derbyn llai o gyflog yn y gobaith o arbed swyddi yn gynharach eleni.

Roedd cynlluniau i ymestyn y lofa gan gyflogi hyd at 1,000 o weithwyr ond gyda phrisiau glo yn gostwng roedd yn annhebyg y byddai’r perchnogion yn gallu sicrhau’r buddsoddiad o £40m oedd ei angen ar gyfer y gwaith.