Casey Breese
Mae teulu’r bachgen 12 oed Casey Breese fu farw ar ôl i byst pêl droed syrthio arno ddwy flynedd yn ôl wedi dioddef ail drasiedi dros y penwythnos.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod  chwaer Casey, Kelly Marie Breese, 18 oed, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad nos Sul.

Bu farw Casey pan ddisgynnodd pyst arno ar gae ger ei gartref yng Nghaersws  yng Ngorffennaf 2011.

Mae swyddogion arbenigol yr heddlu yn cynnig cymorth a chefnogaeth i’w rhieni, Shan a Nick Breese, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i wrthdrawiad a ddigwyddodd tua 9.30yh nos Sul pan fu car Vauxhall Corsa mewn gwrthdrawiad â choeden ar ffordd y B4568 rhwng Llanwnnog ac Aberhafesp.

Ychwanegodd y datganiad fod Kelly Breese wedi marw yn y fan a’r lle.

“Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond er mwyn osgoi dyfalu mae’r teulu wedi cytuno i’w henwi, sef Kelly Marie Breese, 18 oed, o Gaersws,”  dywed y datganiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynghylch y gwrthdrawiad gysylltu ag uned blismona ffyrdd yr heddlu yn y Drenewydd ar 101.

Yr wythnos diwethaf ymddangosodd swyddogion Clwb Pêl Droed Caersws gerbron ynadon. Maen nhw wedi eu cyhuddo o droseddau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch mewn cysylltiad a marwolaeth Casey Breese.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 18 Hydref pan fydd y swyddogion yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.