Mae ffrwydrad wedi bod mewn tŷ ym mhentref Hakin, Aberdaugleddau bore ma.
Bu’n rhaid i 10 o bobol o dai cyfagos adael eu cartrefi wedi i’r tân ledu o’r tŷ un llawr.
Daeth galwad ffôn i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru am ychydig wedi 8 y bore Llun ac fe gafodd pedair injan dân eu hanfon i’r safle.
Mae’r gwasanaeth Ambiwlans wedi cludo un person i’r ysbyty am driniaeth.
Yn ol adroddiadau roedd nwy wedi bod yn gollwng yn y ty.