Glofa Senghennydd
Mae diwrnod o ddigwyddiadau i nodi canmlwyddiant y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain wedi dechrau yn Senghennydd.

Gan mlynedd union yn ôl, 14 Hydref 1913 cafodd 439 o lowyr eu lladd mewn ffrwydrad yn Senghennydd.

Dechreuodd y digwyddiadau pan ymgasglodd tua 100 o bobl yn y pentref i glywed hwter wreiddiol pwll Universal yn cael ei ganu am 8.10 yb – can mlynedd i’r munud ers iddo ganu i hysbysu’r trychineb i drigolion y pentref.

Yn y gwasanaeth coffa am 11.30 fe fydd cofeb lofaol genedlaethol Cymru – cerflun o efydd gan Les Johnson – yn cael ei ddadorchuddio, a gardd goffa’n cael ei hagor.

Mae’r cerflun yn dangos glöwr yn derbyn cymorth gan un o’r gweithwyr achub gafodd eu hanfon i geisio diffodd y tanau yn y pwll ar 14 Hydref 1913.

Yn yr ardd goffa fe fydd enwau pawb a gollodd eu bywydau yn y trychineb, gydag enw, oed a chyfeiriad pob un o’r glowyr.

Fe fydd llwybr coffa hefyd yn yr ardd er cof am bob damwain lofaol yng Nghymru lle cafodd mwy na phump o bobl eu lladd. Fe fydd y llwybr yn nodi enw’r lofa, dyddiad y trychineb a’r nifer a gafodd eu lladd.

Disgwylir i gannoedd o bobl i fynychu’r seremoni dadorchuddio’r gofeb gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

A bydd carfan tîm pêl droed Cymru yn gwisgo bandiau du pan fyddan nhw yn ymarfer yn ddiweddarach heddiw cyn hedfan i Frwsel i herio Gwlad Belg mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd.

Meddai Jack Humphreys, cadeirydd y gymdeithas hanes leol, grŵp treftadaeth Cwm yr Aber:

“Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers y trychineb yng nglofa Universal, ond mae’r effaith a gafodd y ffrwydrad ar y gymuned lofaol fach hon yn dal i gael ei deimlo hyd heddiw.

“Gobeithiwn y bydd y digwyddiad ddydd Llun yn deyrnged deilwng i ddioddefwyr y ffrwydradau yn Senghennydd ac mewn trychinebau glofaol ledled Cymru.”

Trychineb mawr 1913 oedd yr ail i Senghennydd ei brofi, gan i 81 o lowyr gael eu lladd hefyd mewn ffrwydrad tebyg 12 mlynedd ynghynt.