Conwy
Bydd trigolion a phobl sy’n ymweld ag Eryri yn cael cyfle i ddilyn ôl traed tywysogion Gwynedd am y tro cyntaf, wedi i gynllun twristiaeth Cadw gael ei lansio yn Ninas Emrys heddiw.

Mae 30 o safleoedd treftadaeth eiconig wedi eu dewis i adrodd hanes tywysogion y canol oesoedd yng Nghymru yn y gobaith o ddenu hyd at 12,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r ardaloedd cyn diwedd 2014.

O Maelgwn Gwynedd i Llywelyn Fawr, gall ymwelwyr astudio bywydau’r tywysogion gan ddefnyddio llwybrau cerdded, seiclo a gyrru a fydd yn cysylltu un safle i’r llall.

Canolfannau gwybodaeth

Mae’r cynllun dan arweiniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae chwe chanolbwynt gwybodaeth –  Canolfan Groeso Betws-y-coed, Canolfan Ymwelwyr Castell Cricieth, Canolfan Groeso Conwy, Oriel Pendeitsh yng Nghaernarfon, Canolfan Groeso Beddgelert (Canolfan Hebog) ac yn safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraflwyn – y mannau cychwyn ar gyfer ymwelwyr.

Dywedodd John Griffiths, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon:

“Rydym eisiau creu dolenni ffisegol a thematig rhwng llefydd a safleoedd, er mwyn i bobl allu dilyn straeon ar hyd a lled Cymru, gyda chymorth dehongli ysbrydoledig.

“Roedd tywysogion Cymru’n rhan aruthrol bwysig o ddatblygiad Cymru, ac mae eu hanes wedi gadael ei ôl ar dirlun y wlad hyd heddiw.

Mae tîm y prosiect wedi sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiadau cyffrous ac ysgogol a fydd hefyd yn dwyn budd i economi lleol yr ardal.”