Y dfirod wedi'r teiffwn yn y Philipinau
Mae Fietnam yn symud mwy na 180,000 o bobl o ardaloedd arfordirol wrth i Deiffŵn Nari nesáu.
Roedd y storm wedi taro ynysoedd y Philipinau dros y penwythnos gan ladd 13 o bobl.
Mae disgwyl i’r teiffŵn daro arfordir Fietnam yn gynnar fore Mawrth gyda gwyntoedd o hyd at 80 mya a’r posibilrwydd o lifogydd a difrod i eiddo.
Dywed swyddogion bod 10 o westyau sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr o dramor sy’n agos i dref Hoi An wedi cael gorchymyn i symud gwestai i westyau eraill.
Y bwriad yw symud 180,000 o bobl i ysgolion ac adeiladau cyhoeddus mewn taleithiau mwy canolog.