Jimmy Savile
Fe allai rhagor o ysbytai fod yn rhan o ymchwiliad i achosion o gam-drin rhywiol gan Jimmy Savile ar safleoedd y GIG, fe gyhoedd Jeremy Hunt heddiw.

Mae gwybodaeth newydd wedi dod i lawr yn ymwneud ag ymchwiliadau i 13 o sefydliadau yn ogystal â “chyfeiriadau at ysbytai eraill”, meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.

Mae Jeremy Hunt wedi galw ar yr heddlu i adolygu’r holl dystiolaeth cyn bod y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo i ymchwilwyr “mor fuan â phosib.”

Mae ymchwiliadau eisoes ar y gweill yn Broadmoor, Stoke Mandeville ac Ysbyty Leeds a 10 o ymddiriedolaethau eraill.

Dywedodd Jeremy Hunt y bydd enwau’r ysbytai eraill yn cael eu cyhoeddi unwaith y bydd y gwaith o adolygu’r dystiolaeth newydd wedi ei gwblhau.