Mae bachgen 10 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn oedrannus, meddai’r heddlu.

Cafodd yr heddlu eu galw am 6.19yh neithiwr ar ôl i barafeddygon roi cymorth i ddyn 79 oed yn ardal Harehills yn Leeds. Roedd wedi cael anaf i’w ben.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Swydd Efrog bod bachgen 10 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Cafodd y pensiynwr ei gludo i Ysbyty Cyffredinol Leeds ond bu farw’n fuan wedyn.