Bydd gwaith cynhyrchu yn ail ddechrau ar safle ffatri yn Remploy heddiw, wedi i saith o gyn weithwyr fuddsoddi eu harian diswyddo i greu menter weithredol.

Fe fydd Accommodation Furniture Solutions Cyf, yn cynhyrchu dodrefn i’r cartref ac yn cyflogi saith o gyn-weithwyr Remploy i ddechrau gyda’r gobaith o gyflogi mwy o gyn-weithwyr  ymhen amser.

Fe gaeodd y ffatri yn Fforest Fach, Abertawe ei drysau yn 2012 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r fenter gyda chynllun Grant Cefnogaeth i Weithwyr, sydd yn rhoi cefnogaeth ariannol i’r gweithwyr.

Dewis anghywir

Dywedodd y Gweinidog Cymunedol Jeff Cuthbert:  “Roedd penderfyniad Llywodraeth Prydain i gau ffatrïoedd Remploy yn ddewis anghywir i Gymru. Dyna pam ry’n  ni wedi gweithio’n ddiflino  i roi cymorth i bawb a gafodd eu gwneud yn ddi-waith i ddod o hyd i swyddi newydd.  A dyna pam mae’r fenter yma yn Abertawe yn newyddion da iawn.”

Yn ôl Kevin Edwards Rheolwr Gyfarwyddwr y fenter: “Pan gaeodd ffatri Remploy yn 2012 roedden ni’n awyddus i sicrhau nad oedd y sgiliau o safon uchel ymhlith y gweithlu cael eu colli. Gyda’r fenter gydweithredol hon, rydym yn gobeithio datblygu busnes llwyddiannus, gan weithio tuag at fod yn un o brif wneuthurwyr dodrefn yn y farchnad yn y DU.

“Wrth inni ehangu rydym yn bwriadu gweithredu fel cwmni cydweithredol sy’n cefnogi ein gweithlu sy’n anabl neu dan anfantais, a chynnig hyfforddiant a chyfleoedd swyddi i’r gymuned ehangach yn Abertawe.”

Bydd Remploy yn rhentu’r ffatri i’r busnes newydd am gyfnod o chwe mis a hefyd yn rhoi nifer o asedau iddynt.