Bydd £20 miliwn yn ychwanegol yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i amddiffyn cartrefi a busnesau Cymru rhag effeithiau llifogydd, yn ôl y Gweinidog Adnoddau Naturiol, Alun Davies.

Bydd y swm yn gwarchod 2,000 o dai a busnesau yng Nghymru ac yn ariannu cynlluniau mewn ardaloedd fel Casnewydd (£7m), Caerdydd (£6m), Abertawe (£1m), a Dolgellau (£5m), sy’n wynebu risg uchel o lifogydd.

Cafodd y swm ei gyhoeddi yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf ac mae’n ychwanegol i’r £51miliwn sydd wedi ei bennu gan y Llywodraeth ar gyfer 2014-15.

Paratoi

Wrth siarad am yr arian ychwanegol, dywedodd Alun Davies: “Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn un o’r rhai mwyaf gwlyb sydd wedi cael ei chofnodi ac fe achosodd hyn ddifrod i nifer o dai a busnesau yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

“Ni allwn ni atal llifogydd, ond rydym yn gwneud popeth sy’n bosib i leihau’r risg a’r effeithiau. Dyna pam ein bod wedi rhoi dros £180m yn barod i geisio rheoli’r effeithiau.”

Dywedodd Emyr Roberts, Prif weithredwr Adnoddau Naturiol Cymru: “Mae’r arian ychwanegol am gael ei ddefnyddio yn ein gwaith cyfredol i warchod pobol rhag canlyniadau trychinebus llifogydd.

“Rydym hefyd yn rhoi cymorth i bobol baratoi eu hunain a’u cymunedau yn erbyn llifogydd fel rhan o’r cynllun Ymwybyddiaeth Llifogydd Cymru.”