Fe fydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal adolygiad i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Mae’r Comisiynydd, Sarah Rochira yn adolygu’r ddarpariaeth i ganfod a oes gan bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd da. Fe fydd yn edrych ar ffactorau fel iechyd corfforol a seicolegol, perthnasoedd cymdeithasol, ac amgylchedd y cartref gofal.
Bydd Sarah Rochira yn cymryd diddordeb penodol mewn siaradwyr Cymraeg a phobl sy’n byw â dementia.
‘Annerbyniol’
Dywedodd: “Yr wyf wedi cyfeirio’n aml at y llu o enghreifftiau ardderchog o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a’r staff ymroddedig niferus yn y sector cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd.
“Fodd bynnag, yr wyf hefyd wedi siarad ar goedd am yr hyn yr ystyriaf yn amrywiadau annerbyniol yn ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn mewn gofal preswyl. Yr wyf wedi’i gwneud hi’n glir ein bod yn methu â chadw gormod o bobl hŷn yn ddiogel rhag niwed, bod gormod o bobl hŷn nad ydynt yn cael eu trin mewn ffordd garedig ac urddasol a bod ansawdd bywyd, i rai, yn annerbyniol.
“Bydd fy Adolygiad yn rhoi llais uniongyrchol i bobl hŷn a’u teuluoedd a bydd yn sicrhau bod y sawl sy’n atebol am ein gwasanaethau, ac yn eu rhedeg, yn deall realiti bywyd bob dydd mewn gofal preswyl yng Nghymru. Bydd fy Adolygiad yn tynnu sylw at y gofal gorau, ond bydd hefyd yn dangos yn glir yr effaith y mae ansawdd bywyd a gofal gwael yn ei gael ar fywydau pobl hŷn.”
Mae’r Comisiynydd yn ceisio sicrhau bod:
- Y cyrff hynny sy’n gyfrifol am reoleiddio, arolygu, comisiynu a darparu gofal yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o fywydau pobl hŷn mewn cartrefi gofal preswyl.
- Pobl hŷn, perthnasau, gofalwyr, staff, cyrff cyhoeddus, darparwyr preifat ac eraill yn ymwybodol o beth yn union yw ansawdd bywyd a gofal da.
- Ansawdd bywyd a gofal yn cael eu cydnabod fel y meincnod hanfodol ar gyfer darparu ac asesu gofal preswyl yng Nghymru.
- Camau’n cael eu cymryd sy’n arwain at wella ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn.