Credir bod mwy na 100 o bobl wedi marw ar ôl cael eu sathru yn ystod rhuthr mewn gŵyl grefyddol yn India.
Mae nifer o bobl eraill yn cael triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad ar bont gul sy’n arwain at deml Hindŵaidd mewn pentref yn nhalaith Madhya Pradesh ddoe.
Dywedodd Prif Weinidog India Dr Manmohan Singh bod eu meddyliau a’u gweddïau gyda’r rhai fu farw a’u teuluoedd.