Mae pedwar o ddynion yn cael eu holi ar amheuaeth o droseddau’n ymwneud a therfysgaeth yn Llundain.

Cafodd y dynion eu harestio ddoe o dan y Ddeddf Derfysgaeth 2000 mewn cyrch gyda heddlu arfog oedd wedi ei drefnu o flaen llaw.

Mae’r dynion yn cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu yn ne Llundain tra bod yr heddlu yn chwilio chwe eiddo ar draws y ddinas, meddai llefarydd ar ran Scotland Yard.