Madeleine McCann
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann wedi rhyddhau dau lun o ddyn maen nhw’n dweud sy’n “hanfodol bwysig” i’r ymchwiliad.

Fe fydd dau e-lun yn cael eu dangos ar raglen BBC Crimewatch heno. Mae’r lluniau yn seiliedig ar ddisgrifiadau a datganiadau gan ddau lygad-dyst a welodd y dyn yn ardal Praia da Luz ar nos Iau, 3 Mai 2007 – sef y noson y diflannodd Madeleine.

Mae gwaith gan dditectifs wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddyn nhw ynglŷn â’r cyfnod y gallai Madeleine fod wedi cael ei chipio ac mae hyn wedi gwneud datganiadau’r ddau lygad-dyst yn fwy arwyddocaol, meddai Scotland Yard.


Yr e-lun o'r dyn mae'r heddlu'n awyddus i'w holi
Mae’r heddlu’n apelio am help y cyhoedd i geisio adnabod y dyn sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, rhwng 20-40 oed, gyda gwallt byr, brown, o faint canolig a thaldra canolig.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Redwood eu bod nhw wedi gallu cymryd “camau mawr ymlaen” drwy gael yr holl wybodaeth at ei gilydd a’i adolygu o’r newydd.

Fe fydd yr heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth gan bobl yn yr Iseldiroedd, yr Almaen ac Iwerddon gan fod Praia da Luz yn gyrchfan wyliau poblogaidd ymhlith pobl o nifer o wahanol wledydd.