Glofa'r Universal, Senghennydd (o wefan Grwp Treftadaeth Cwm yr Aber)
Gan mlynedd union yn ôl, 14 Hydref 1913 cafodd 439 o lowyr eu lladd mewn ffrwydrad yn Senghennydd, yn y trychineb diwydiannol gwaethaf yn hanes Prydain.
I nodi’r achlysur mae gwasanaeth coffa a diwrnod o weithgareddau’n cael eu cynnal yn y pentref glofaol bychan gerllaw Caerffili heddiw.
Yn y gwasanaeth coffa am 11.30 fe fydd cofeb lofaol genedlaethol Cymru – cerflun o efydd gan Les Johnson – yn cael ei ddadorchuddio, a gardd goffa’n cael ei hagor.
Yn yr ardd goffa fe fydd enwau pawb a gollodd eu bywydau yn y trychineb, gydag enw, oed a chyfeiriad pob un o’r glowyr.
Fe fydd llwybr coffa hefyd yn yr ardd er cof am bob damwain lofaol yng Nghymru lle cafodd mwy na phump o bobl eu lladd. Fe fydd y llwybr yn nodi enw’r lofa, dyddiad y trychineb a’r nifer a gafodd eu lladd.
Effaith i’w deimlo o hyd
Meddai Jack Humphreys, cadeirydd y gymdeithas hanes leol, grŵp treftadaeth Cwm yr Aber:
“Mae can mlynedd wedi mynd heibio ers y trychineb yng nglofa Universal, ond mae’r effaith a gafodd y ffrwydrad ar y gymuned lofaol fach hon yn dal i gael ei deimlo hyd heddiw.
“Gobeithiwn y bydd y digwyddiad ddydd Llun yn deyrnged deilwng i ddioddefwyr y ffrwydradau yn Senghennydd ac mewn trychinebau glofaol ledled Cymru.”
Trychineb mawr 1913 oedd yr ail i Senghennydd ei brofi, gan i 81 o lowyr gael eu lladd hefyd mewn ffrwydrad tebyg 12 mlynedd ynghynt.