Mae galw mawr wedi bod am forgeisi ers i lywodraeth Prydain lansio’r cynllun Help i Brynu yr wythnos ddiwethaf, yn ôl un o’r banciau sy’n gweithredu’r cynllun.

Dywed y Royal Bank of Scotland iddyn gael dros 10,000 o ymholiadau dros yr wythnos ddiwethaf – cymaint ddwywaith ag mewn wythnos arferol – a bod 5,000 o apwyntiadau wedi’u trefnu.

Mae’r Llywodraeth yn cynnig gwerth £1.2 biliwn mewn gwarantau o dan y cynllun Help i Brynu er mwyn annog benthycwyr i gynnig morgeisi gyda blaendaliadau cyn ised â 5% i ddarpar brynwyr addas.

Ychydig o fanciau sy’n cymryd rhan yn y cynllun ar hyn o bryd, ond mae disgwyl y bydd rhagor yn ymuno gyda hyn.

Mae ofnau y gall y cynllun arwain at gynnydd dilyffethair arall mewn prisiau tai – gydag adroddiadau fod hyn eisoes yn digwydd yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr ar hyn o bryd.