Mae Tesco wedi tynnu cinio twrci wedi rhewi oddi ar y silffoedd oherwydd camgymeriad yn y  ffatri sy’n cynhyrchu’r pryd, gan olygu y gallai’r pecynnau gynnwys wy.

Mae’n debyg bod perygl bod bwydydd ar gyfer brecwast, gan gynnwys wy, wedi cael eu cymysgu gyda’r cinio twrci.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi rhybudd alergedd oherwydd bod y pryd yn peri risg iechyd posibl i bobl sydd ddim yn gallu bwyta  wyau.

Y cynnyrch sydd wedi cael ei effeithio yw’r 400g Tesco Frozen Classic Turkey Dinner gyda’r cod R32071 a R32072.