Ed Miliband
Mae’r Blaid Lafur wedi mynnu ymddiheuriad gan y Daily Mail ar ôl i’r papur newydd gyfaddef bod defnyddio llun o fedd tad Ed Miliband i gyd-fynd a stori amdano yn gamgymeriad.

Mae arweinydd Llafur wedi cyhuddo’r Daily Mail o ddweud celwydd trwy honni bod yr academydd Marcsaidd diweddar, Ralph Miliband, yn  “casáu Prydain”.

Dywedodd Ed Miliband bod ei dad, ffoadur Iddewig a ddaeth i Brydain i ddianc rhag y Natsïaid ac a wasanaethodd yn y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi caru’r wlad a roddodd loches iddo.

Dywedodd dirprwy olygydd y Daily Mail, Jon Steafel, ar Newsnight neithiwr bod y llun wedi ei dynnu oddi ar wefan y papur ar ôl iddyn nhw dderbyn cwyn gan Ed Miliband.

Ond bu’n amddiffyn y penderfyniad i gyhoeddi’r erthygl gan ddweud fod ganddyn nhw bob hawl i ymchwilio’n feirniadol i safbwyntiau Ralph Miliband a’r dylanwad posibl y gallan nhw fod wedi eu cael ar ei fab.

Cefnogaeth Geidwadol

Ond mae dau o brif ffigyrau’r blaid Geidwadol wedi rhoi eu barn nhw ar y mater heddiw gan weld safbwynt Ed Miliband. Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague fod y ddadl yn un “ffyrnig”.

“Er nad ydw i’n gwybod digon am dad Ed Miliband i gamu mewn i’r ffrae, mae ei ymateb yn ddealladwy,” meddai

Dywedodd Maer Llundain Boris Johnson wrth orsaf radio LBC 97.3 ei fod yn deall ymateb Ed Miliband.

“Rwy’n credu bod pobl yn teimlo’n sensitif iawn, yn enwedig os yw gwladgarwch y perthnasau hynny yn cael ei phardduo,” meddai.